Mae 41 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sul, Ebrill 19).

Mae cyfanswm o 575 o bobol bellach wedi marw yn y wlad.

Cafodd 334 o achosion newydd eu hadrodd, sy’n golygu bod 7,270 o achosion bellach wedi cael eu cadarnhau yma.

Mae’r ffigurau’n cynnwys y rhai fu farw mewn ysbytai, ac mae’n bosib eu bod nhw hefyd yn cynnwys nifer o bobol sydd wedi marw mewn cartrefi gofal.

Ond mae’r darlun cyflawn yn debygol o fod yn waeth o lawer yn sgil anghysondeb wrth gynnal profion.