Mae ffermwr o Geredigion sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 91 oed heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 18) wedi bod yn cerdded o amgylch ei dŷ 91 o weithiau.

Mae Rhythwyn Evans yn codi arian at y Gwasanaeth Iechyd wrth gwblhau’r her yn ei gartref ar fferm Tan-y-Graig yn Silian ger Llanbedr Pont Steffan.

Roedd e eisoes wedi codi dros £11,000 cyn dechrau’r her.

Cafodd ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore, dyn 100 oed, sydd wedi codi dros £22m drwy gerdded o amgylch ei ardd.

Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi gan Rhythwyn Evans yn mynd at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac maen nhw wedi diolch iddo am ei gefnogaeth gan ddymuno pen-blwydd hapus iddo.