Mae Mark Drakeford a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n annog pobol i lawrlwytho ap sy’n gallu dadansoddi gwybodaeth am symptomau’r coronafeirws.

Mae modd i’r ap ddadansoddi gwybodaeth sy’n cael ei mewnbynnu’n ddyddiol gan bobol sy’n profi symptomau’r feirws er mwyn cael darlun clir o sut mae’r feirws yn effeithio ar bobol.

Mae’r ap i’w ddefnyddio gan bawb, nid dim ond pobol sy’n cael symptomau yn ystod yr ymlediad.

Cafodd ei ddatblygu gan ymchwilwyr yng ngholeg King’s yn Llundain a chwmni ZOE, ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fwy na 38,000 o bobol yng Nghymru.

Hefyd yn dadansoddi’r data mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan weithwyr iechyd a gweithwyr allweddol, ac mae’r data ar gael i Lywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel bod modd iddyn nhw baratoi ysbytai ar gyfer derbyn cleifion.

‘Hanfodol adeiladu darlun clir’

“Mae cael ystod o dystiolaeth a data yn hanfodol wrth ein helpu ni i adeiladu darlun clir o sut mae’r feirws yn ymddwyn ac yn effeithio ar fywydau pawb,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Yn hanfodol, mae’r ap hwn yn gallu ein helpu ni i ddarogan mannau anterth COVID ac i baratoi ein gwasanaethau iechyd.

“Dw i’n gofyn i bawb yng Nghymru lawrlwytho’r ap Tracio Symptomau COVID fel y gallwch chi helpu i amddiffyn ein gweithwyr ac achub bywydau.

“Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu’r darlun gwyddonol gorau fel ein bod ni wedi’n harfogi’n well i frwydro yn erbyn yr afiechyd ofnadwy yma.”