Er bod rhai o’r farn na ddylai merched gael bocsio, mae brawd un ferch sy’n bocsio yn grediniol bod y gamp wedi achub bywyd ei chwaer.
Yn ei harddegau cynnar, roedd Tamlyn Williams mewn trybini gyda’r heddlu.
Fe gafodd y ferch o Sandfields ym Mhort Talbot ei chyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol – GBH – pan oedd hi’n 13 oed.
Bellach yn 24 oed, mae Tamlyn Williams wedi troi at focsio wrth geisio byw bywyd gwell.
Mi fydd hi i’w gweld ar raglen DRYCH: Bocsio Merched ar S4C nos Sul am naw.
Ac mi fydd ei brawd yn hel atgofion am ei chwaer a sut y bu i’r bocsio ei hachub.
“Roedd ei hagwedd yn broblem fawr, problem child, hollol off the rails,” meddai Tyson Williams.
“Os oedd rhywbeth yn digwydd, doedd hi ddim moyn i ddigwydd, roedd trafferth mawr.
“Os na fyddai Tamlyn wedi ffeindio rhywbeth fel bocsio, i gymryd ei hamser hi a’i hangerdd hi, byddai Tamlyn ddim yma heddiw.”
Troseddu
Ac mae’r focswraig yn cydnabod y gallai bywyd fod wedi bod yn wahanol iawn, heb y bocsio.
“Pan oeddwn i’n tyfu lan roedd pethau’n wahanol,” meddai Tamlyn Williams.
“Roeddwn i’n ffrindiau gyda’r wrong crowd a gwneud pethau doeddwn i ddim fod i wneud,” meddai’r ferch o Sandfields.
“Rydych chi’n gorfod cael tipyn bach o attitude i tyfu lan rownd fan hyn. Roedd fy ffrindiau yn fy nhynnu i lawr, doedden nhw ddim moyn gwybod os oeddwn i’n gwneud yn dda, neu rhoi popeth mewn i rhywbeth fel bocsio.
“Doedden nhw ddim yn cefnogi fi. Yr unig ddiddordeb oedd gyda nhw oedd troseddu – dwyn a stwff fel yna.”
DRYCH: Bocsio Merched ar S4C nos Sul am naw