Yn dilyn anerchiad Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, nos Lun, lle gwaharddwyd digwyddiadau ar raddfa fawr yn Ffrainc hyd ganol mis Gorffennaf fel rhan o’r frwydr yn erbyn lledaeniad COVID-19, mae trefnwyr y Tour de France, mewn cytundeb â’r Union Cycliste Internationale, wedi penderfynu gohirio’r Tour, a’i gynnal o ddydd Sadwrn 29ain o Awst hyd nos Sul 20fed Medi 2020.

Roedd y ras i fod i ddigwydd yn wreiddiol rhwng y 27 Mehefin a’r 19 Gorffennaf. Ar y dyddiadau newydd, bydd y Tour yn dilyn yr un llwybr, heb unrhyw newidiadau, o Nice i Baris, meddai’r trefnwyr.

Cyn y cohoeddiad, roedd Geraint Thomas yn gefnogol i’r syniad o aildrefnu ras feicio fwyaf y byd.

Gyda mwy’n gwylio a mwy o sylw yn y cyfryngau nag unrhyw ras arall, mae’r Tour de France yn allweddol o ran economi’r byd beicio.

“Y Tour de France yw uchafbwynt beicio,” meddai Geraint Thomas, ddaru ennill y ras yn 2018 cyn gorffen yn ail i Egan Bernal flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’n cynrychioli beicio a dyna sydd bendant yn fy nghadw i fynd ar hyn o bryd.

“Gyda lwc mi fydd hi’n cael ei chynnal. Byddai hynny yn wych i bawb.”