Does dim rheswm i fod yn “amheus” ynghylch gallu’r Deyrnas Unedig i gael gafael ar frechlyn yn erbyn y coronaferiws.

Dyna ddywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, wrth annerch y wasg ar brynhawn dydd Iau (Ebrill 16).

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ill dau wedi cael eu beirniadu am fethu â chael gafael ar ddigon o brofion am y feirws.

Ond wrth ateb cwestiwn gan golwg360 yn y sesiwn i’r wasg, awgrymodd y prif swyddog na fyddai’r llywodraethau’n wynebu’r un broblem â brechlyn i’r feirws – pryd bynnag daw hwnnw.

“Does gen i ddim rheswm i fod yn amheus ynghylch gallu’r Deyrnas Unedig i gael gafael ar y brechlyn pan fydd ar gael ledled y byd.

“A wnawn ni’n siŵr ei fod ar gael i’r boblogaeth fel rhan o’n hymateb, ac mi wnawn yn siŵr bod pobol yn cael eu diogelu.”

Sefydlogi buan o ran nifer yr achosion?

Mae cryn ddyfalu wedi bod ynghylch a yw nifer yr achosion yng Nghymru wedi cyrraedd eu hanterth, ac ateb go ofalus oedd gan y Prif Weithredwr ar y mater.

“Mae’n glir iawn i ni fod yna arwyddion calonogol ynghylch lle’r ydym ni ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae yna sawl agwedd anhysbys i’r ffordd mae’r feirws yma’n datblygu,” meddai’n ddiweddarach, “ac rydym yn gobeithio ei fod yn bosib y byddwn yn gweld rhywfaint o sefydlogi yn fuan.

“Yn sicr mae rhai o ffigurau’r Deyrnas Unedig yn awgrymu hynny ar hyn o bryd. Ond dw i’n credu ei fod yn rhy fuan i ni ddweud os mai dyma’r anterth.”

Dywedodd hefyd yn y gynhadledd y byddai labordy profi yn cael ei sefydlu yng ngogledd Cymru – yn y Rhyl mwy na thebyg – erbyn diwedd y mis.

Yn nes ymlaen, fel y disgwyl, cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn dilyn cyfarfod COBRA i drafod yr argyfwng, y bydd mesurau arbennig sy’n cyfyngu ar symudiadau pobl yn parhau mewn grym yng Nghymru a Phrydain am dair wythnos arall.