Mae llywodraeth Prydain wedi lansio ymchwil i geisio darganfod pam fod y coronafeirws fel pe bai’n taro pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn waeth na’r disgwyl.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod lleiafrifoedd yn cael eu gor-gynrychioli ymhlith cleifion yr haint, o gymharu â’r canrannau maen nhw’n eu ffurfio o’r boblogaeth.

Yn ôl cyfrifiad a wnaed o 1,966 o gleifion a oedd yn dioddef o Covid-19 yr wythnos ddiwethaf, roedd 64.8% yn wyn, 13.6% yn ddu, 13.8% Asiaidd, a 6.6% yn cael eu disgrifio fel eraill.

Mae hyn yn cymharu â chyfrifiad 2011 a oedd yn dangos bod 7.5% o’r boblogaeth yn Asiaidd a 3.3% yn ddu.

Roedd y 10 meddyg cyntaf a fu farw o’r Covid-19 ym Mhrydain o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Roedd cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), Chaand Nagpaul, wedi dadlau na allai hyn fod wedi digwydd ar hap.