Mae’r cyhoedd wedi cael eu hannog i beidio â chynnau llusernau awyr wrth gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd heno.
Tros yr wythnosau diwethaf mae llawer wedi bod yn cyfleu eu cefnogaeth trwy glapio bob dydd Iau, a thrwy ddylunio arwyddion a gwaith celf cefnogol.
Ond mae pryderon cynyddol am bobol yn cynnau llusernau awyr (sky lanterns), ac am y peryglon mae’r rhain yn peri.
Mae pob un o gynghorau Cymru wedi gwahardd y llusernau yma ar eu tir hwythau, ac mae elusen yr RSPCA wedi rhybuddio am y bygythiad maen nhw’n peri i anifeiliaid.
“Mae’n beth grêt bod pobol yn chwilio am ffyrdd o ddangos eu cefnogaeth i staff GIG a gweithwyr allweddol eraill – ond rhaid peidio rhyddhau’r llusernau i’r awyr,” meddai Dr Julia Wrathall, Prif Swyddog Gwyddonol yr RSPCA.
“Efallai eu bod yn eitha’ pert – ond maen nhw hefyd yn eitha’ peryglus. Maen nhw’n gallu lladd anifeiliaid … a dinistrio cynefinoedd, wrth ddychwelyd i’r ddaear.”
Andrew RT Davies
Mae gwleidyddion hefyd wedi apelio ar y cyhoedd i gymryd gofal, ac mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Andrew RT Davies, wedi tynnu sylw at y bygythiad i dda byw.
“Fel pawb arall dw i eisiau dangos fy edmygedd i’r Gwasanaeth Iechyd a staff rheng flaen eraill,” meddai, “ond mae cynnau llusernau awyr jest yn wirion.
“Efallai eu bod yn edrych yn bert wrth iddyn nhw hedfan i ffwrdd, ond bomiau tân yw’r rhain mewn gwirionedd.”
Mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Eluned Morgan wedi rhybuddio am eu “heffeithiau dinistriol” – wrth achosi tân, a llygru’r amgylchedd.