Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi £40m o gyllid ychwanegol i helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion yn sgil y coronafeirws.

Bydd yr arian yn gallu cael ei ddefnyddio i dalu am gyfarpar diogelwch personol, bwyd, staffio a thechnoleg – costau sydd fel arfer yn cael eu talu gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Daw’r arian allan o’r gronfa o £1.1bn sydd wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymateb gwasanaethau cyhoeddus i’r pandemig.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu ymhlith awdurdodau lleol trwy gronfa llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau sydd wedi cael eu clustnodi.

‘Pwysicach nag erioed’

“Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed yng Nghymru a’r gwasanaeth iechyd,” meddai Vaughan Gething.

“Mae’r gwaith hwn yn bwysicach nag erioed yn awr.

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi’r costau ychwanegol y mae’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatgan yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fodloni’r galw ychwanegol sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

“Byddwn yn adolygu’r dyraniad hwn ac yn sicrhau bod rhagor o arian ar gael efallai os bydd angen yn y dyfodol.

“Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol ar y rheng flaen yn yr ymdrech enfawr hon i ymateb i bandemig y coronafeirws ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob un person i wneud eu gwaith.

“Mae gan bob un ohonom ni yng Nghymru ddyled aruthrol iddynt.

“Fe hoffwn i ddiolch yn bersonol i’n gweithlu gofal cymdeithasol am eu hymdrechion rhagorol i warchod y cyhoedd.”