Mae pobol yn cael eu hannog i ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ am 8 o’r gloch heno (nos Lun, Ebrill 13) i ddiolch i’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r ymgyrch ‘Sing For Wales’ yn cael ei chefnogi gan Radio Cymru a Radio Wales, fydd yn chwarae’r anthem ar yr awyr.
Mae pobol yn cael eu hannog i ffilmio’u hunain yn canu a phostio’u hymdrechion ar Facebook a Twitter.
“Rydyn ni’n canu i bawb sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19,” meddai neges ar dudalen Facebook yr ymgyrch.
“I’r Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol, i blant sy’n gweld eisiau’r ysgol a’u ffrindiau, i bawb sy’n ynysu eu hunain ac yn ymbellháu’n gymdeithasol, ac yn aros gartref.
“I’r busnesau sydd wedi gorfod cau, i’r busnesau sy’n dal ar agor ac i’r gweithwyr sy’n cadw ein gwlad i redeg yn ystod yr amserau ansicr hyn.
“I bobol fregus ac mewn perygl mawr, ac yn enwedig y rhai a gollodd eu brwydr yn erbyn covid-19.
“Ymunwn mewn llais, yn unsain ar adeg pan fo rhaid i ni fod ar wahân.”