Mae arwyddion bod gwarchae’r coronafeirws yn llwyddo yng Nghymru, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Daw ei sylwadau wrth iddo gynnal ei gynhadledd ddyddiol ar Ddydd Llun y Pasg (Ebrill 13).
Mae 384 o bobol bellach wedi marw yn sgil y feirws yng Nghymru, tra bod 5,610 o bobol wedi profi’n bositif.
Wrth drafod penwythnos y Pasg, mae’n dweud y bydd canlyniadau aros gartref yn cael eu gweld dros yr wythnosau i ddod.
“Diolch i bawb sy’n aros gartref,” meddai.
“Dw i’n gwybod fod hyn yn anodd.
“I rai pobol, mae’n fwy anodd fyth.
“Diolch am gadw at y rheolau, mae arwyddion bod hyn yn llwyddo.
“Bydd ein gweithredoedd a’n penderfyniadau dros wyliau’r Pasg a’r wythnosau i ddod yn cael effaith.”
Nid pawb sy’n gwrando
Serch hynny, mae nifer o bobol wedi cael eu cosbi dros y penwythnos am anwybyddu canllawiau a chyngor i beidio â mynd allan oni bai bod gwir rhaid.
Mae’r heddlu’n parhau i gadw llygad ar lefydd cyhoeddus, gan gynnwys traethau a llwybrau cyhoeddus wrth i’r tywydd wella.
Yn Sir Benfro, cafodd modurwr o Birmingham ddirwy a’i symud oddi yno gan Heddlu Dyfed-Powys ar ôl teithio o Loegr i gasglu beic modur.
Yn Aberhonddu, cafodd beiciwr modur ddirwy am deithio o Gasnewydd.