Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad gan Rishi Sunak y bydd Cymru’n derbyn £350m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn sgil y coronafeirws.
Daw’r cyhoeddiad fel rhan o becyn ehangach sydd wedi’i gyhoeddi gan Ganghellor San Steffan heddiw (dydd Llun, Ebrill 13).
Daw’r arian o ganlyniad i wariant Llywodraeth Prydain allan o gronfa frys, ac mae’n golygu bod Cymru wedi derbyn ychydig yn llai na £2bn yn sgil y feirws.
Yn ôl Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud “gwaith anghredadwy” ac yn dangos “cryn ymroddiad a sgil i’n cadw ni’n ddiogel”.
“O’i ychwanegu at y £250m fel rhan o’r £5bn gwreiddiol a gafodd ei ryddhau, mae’n golygu y bydd Cymru’n derbyn ymhell dros hanner biliwn o bunnoedd o arian ychwanegol yn benodol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, a chyfanswm o bron i £2bn er mwyn brwydro’r coronafeirws,” meddai.
Craffu ar Lywodraeth Cymru
Ond mae’n dweud bod gwaith i’w wneud i graffu ar Lywodraeth Cymru a’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Felly mae’n rhaid cael eglurder a thryloywder o du gweinyddiaeth Llafur Cymru o ran sut mae’n bwriadu dosbarthu’r arian hwn o £600m gan Lywodraeth Prydain,” meddai.
“Gadewch i fi fod yn gwbl glir: mae ein gweithwyr sector cyhoeddus rheng flaen angen ac yn disgwyl y cyfarpar a’r adnoddau gorau posib wrth iddyn nhw frwydro i’n hamddiffyn ni a’n gwlad rhag y coronafeirws ac felly, dw i’n edrych ymlaen at glywed gan y prif weinidog pa gynlluniau sydd ganddo fe a’i gydweithwyr, a’r amserlen, er mwyn dosbarthu’r £350m ychwanegol.”