Mae 15 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae 384 o bobol bellach wedi marw yn ôl y cofnodion swyddogol, ond mae’r gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch.

Maen nhw’n dweud bod 313 o achosion newydd wedi’u cofnodi ond mae’r ffigwr hwnnw hefyd yn debygol o fod yn uwch mewn gwirionedd.

Mae cyfanswm o 5,610 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn.