Mae Siân Gwenllian yn dweud bod “daearyddiaeth yn erbyn y gogledd”, wrth i brofion coronafeirws gael eu gyrru’r holl ffordd i Gaerdydd i’w dadansoddi.
Bu Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Arfon yn siarad â golwg360 ar ôl galw ar Twitter am sefydlu labordai yn y gogledd er mwyn osgoi gorfod cludo profion o’r gogledd i’r de, gan achosi oedi “diangen”.
“Mae’n fy nharo fi fel bod o’n beth chwithig i’w wneud, ac yn golygu bod profion yn gorfod cael eu cludo mewn cerbyd i lawr i Gaerdydd, siwrnai o bedair awr, tra bod ’na gyfleusterau yn debyg o fod ar gael yn y gogledd,” meddai.
“Mae ’na labordai yn y brifysgol, mae ’na labordy yn Ysbyty Gwynedd a byddai rhywun yn tybio y byddai modd defnyddio’r labordai hynny ar gyfer gwneud y profion ac felly’n dileu’r angen iddyn nhw fynd yr holl ffordd i Gaerdydd gan ychwanegu amser diangen tuag at gynnal y profion.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dylai profion gael eu cynnal a’u dadansoddi o fewn 24 i 36 awr ond mae Siân Gwenllian yn dweud iddi glywed am sawl achos lle mae’n cymryd ymhell dros hynny.
“Mae ’na achosion wedi dod i’n sylw fi o 72 awr, a hyd yn oed 94 awr, wedi pasio erbyn bod canlyniadau’n cael eu pasio’n ôl i’r person.
“Mae rhywun yn tybio y byddai cael cyfleusterau yn nes at lle mae’r profion yn cael eu cymryd ar gyfer eu dadansoddi yn hwyluso pethau ac yn cyflymu’r broses.
“Mae’n ymddangos fel bod y ddaearyddiaeth yn gweithio yn ein herbyn ni, ac mi fydda fo’n fanteisiol, dwi’n credu, i gael labordy lle byddai profion yn gallu cael eu cynnal yn gynt.
“Yn fy marn i, mae’n sefyllfa lle mae’r ffaith fod rhywun yn byw yn y gogledd yn gweithio yn erbyn cyflymder cael y profion yn ôl. Dydi o’m yn gwneud synnwyr i fi beidio â darparu cyfleusterau labordy.”
‘Dim esboniad’
Yn ôl Siân Gwenllian, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi egluro’r penderfyniad i gynnal profion yn y gogledd a’u dadansoddi nhw yn y de.
“Dwi’m yn gwybod be’ ydi’r rhwystr, a bod yn onest. Fedra i ddim ateb y cwestiwn yna. Byddai’n rhaid i chi ofyn i Lywodraeth Cymru beth yn union ydi’r broblem.
“Mae’n ymddangos i fi’n rywbeth fyddai synnwyr cyffredin yn deud y byddai o’n beth synhwyrol i gynnal y profion cyn agosed â phosib.”
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r feirws
Er gwaethaf sefyllfa’r profion, mae’n rhy gynnar eto i ddweud a yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn y ffordd orau bosib i’r feirws, ac wedi cymryd y camau cywir i atal yr ymlediad.
“Dwi ddim mewn lle i farnu ar hynny eto, amser a ddengys mae’n debyg,” meddai. “Fe ddaw ’na gyfle eto i ni edrych yn ôl dros yr holl droeon sydd wedi bod yn y sefyllfa yma.
“Mae ’na ambell i le, efallai, lle gallai penderfyniadau fod wedi cael eu gneud yn gynt ond amser a ddengys ydi o, a deud y gwir.
“Ar hyn o bryd, dylen ni fod yn canolbwyntio ar beth sydd yn digwydd o ddydd i ddydd ac ar gael y profion yn digwydd ond hefyd cael y cyfarpar diogelwch.
“Mae’n amlwg fod yna broblem wedi codi efo’r offer diogelwch. Mae ’na broblemau di-ri ynglyn â staff rheng flaen yn cwyno bo ’na ddim digon o offer diogelwch priodol ar gael ac mae angen taclo hynna ar frys, ac mae isio rhoi’r holl ymdrech tuag at gael yr offer yma ar gyfer y bobol sydd ei angen o.”
‘Gofal piau hi’ o ran y lockdown
Wrth drafod y cyfyngiadau ar symudiadau pobol yn ystod y feirws, mae Siân Gwenllian yn rhybuddio na ddylid codi unrhyw waharddiadau’n rhy gynnar.
“Dwi’n credu bod angen bod yn ofalus iawn fod y lockdown ddim yn dod i ben [yn rhy gynnar].
“Mae isio bod yn ofalus wrth edrych ar y data ac ar y sefyllfa yn Llundain, er enghraifft, o gymharu efo’r sefyllfa yng ngorllewin Cymru.
“Mae’r sefyllfa’n bur wahanol ac mae isio gofal mawr fod ’na ddim negeseuon yn mynd allan o godi’r gwaharddiadau yn Llundain gan beryglu rhannau eraill o’r wlad sydd efallai heb weld y lefel fwyaf o’r achosion yn digwydd eto.
“Mae isio gofal mawr iawn, fyddwn i’n deud, ac yn anffodus, mae isio cadw’r gwaharddiadau mewn lle am sbel eto, o safbwynt rhywun sy’n byw yn y gorllewin, yn sicr.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb.