Mae Amnest Rhyngwladol yn cyhuddo llywodraeth Myanmar o fethu â gwarchod rhyddid barn a hawliau dynol ymgyrchwyr.
Maen nhw’n dweud mai prin iawn yw’r newidiadau yn y sefyllfa ers i Aung San Suu Kyi ddod i rym bedair blynedd yn ôl.
Ond mae disgwyl i’r wlad gynnal etholiad cyffredinol yn ddiweddarach eleni.
“Mae Myanmar yn parhau’n wlad lle gallai’r feirniadaeth leiaf o’r awdurdodau eich landio chi yn y carchar,” meddai Clare Algar, uwch gyfarwyddwr ymchwil, eiriolaeth a pholisi Amnest Rhyngwladol.
“Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, beirdd a myfyrwyr ymhlith y rhai sydd wedi cael eu harestio a’u herlyn, yn syml iawn, am fynegi eu barn.”
Aung San Suu Kyi
Mewn adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi, mae Amnest Rhyngwladol yn dweud bod Aung San Suu Kyi hithau wedi cael ei thargedu gan yr un hen drefn ymosodol pan oedd hi’n ceisio rhoi terfyn ar rym y fyddin a sicrhau democratiaeth yn y wlad.
Mae’r mudiad yn gofidio’n benodol fod newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr yn cael eu cadw’n gaeth yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae pum myfyriwr newydd gael eu carcharu am brotestio yn erbyn cau technoleg i lawr yn sgil y feirws, gyda beirniaid yn honni bod gwarchae’n atal pobol rhag cael mynediad i wybodaeth iechyd allweddol.
Yn ôl y mudiad, mae llywodraeth Myanmar yn defnyddio cyfreithiau amwys i dawelu ei beirniaid.
“Wrth i’r weinyddiaeth bresennol ddod i ddiwedd ei thymor a’r wlad yn paratoi ar gyfer etholiadau cyffredinol yn niwedd 2020, mae’n hanfodol fod yr awdurdodau’n achub ar y cyfle i gau’r drws ar arestio a charcharu gwleidyddol,” meddai Amnest Rhyngwladol.
“Mae hyn yn cynnwys rhyddhau’r rheiny sydd wedi’u carcharu am ddefnyddio’u hawliau, diwygio cyfreithiau gormesol Myanmar a sicrhau bod yr hawl i ryddid barn, cyfathrebu ac ymgynnull yn heddychlon yn cael eu parchu a’u gwarchod.”