Mae tua hanner staff uned frys Ysbyty Brenhinol Gwent wedi’u heintio â’r coronafeirws, yn ôl fideo Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae’r ffigwr yn cynnwys nyrsys a meddygon yr uned.
Mae’r bwrdd iechyd yn cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen, ac mae wedi gweld y nifer fwyaf o achosion yng Nghymru.
Yn yr ardal honno, mae 1,453 o bobol wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws.
Yn ôl un meddyg, Dr Tim Rogerson, mae e a’i fab wedi’u heintio ac wedi cael rhai symptomau.
Mae’n dweud bod y sefyllfa’n anochel “pan ydyn ni’n wynebu’r fath niferoedd o gleifion yn dod i mewn â’r coronafeirws”.
Annog pobol i aros gartref
Mae Dr Tim Rogerson yn galw ar bobol i ddilyn y cyngor i beidio â mynd allan dros y Pasg.
Fel arall, mae’n rhybuddio y bydd uned frys Ysbyty Brenhinol Gwent dros ei gapasiti “ymhen pythefnos”.
“Er ei bod yn anodd, rydyn ni wir eisiau i pobol gadw at y canllawiau, aros gartref a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.