Mae Adam Price wedi cadarnhau bod cwmni yn Rhydaman yn cynnal treialon ar gyfer peiriant anadlu ar gyfer cleifion coronafeirws.

Daeth y newyddion ar dudalen Twitter arweinydd Plaid Cymru heddiw (dydd Sul, Ebrill 12).

Mae’n dweud y bydd treialon llawn yn cael eu cynnal ar ôl i’r prosiect dderbyn arian gan fudiad MHRA.

Cefndir

Datgelodd golwg360 yn ddiweddar fod Dr Rhys Thomas o Landeilo wedi bod yn gweithio ar beiriant sy’n pwmpio ocsigen ychwanegol i waed dioddefwyr Covid-19.

Cafodd y peiriant ei brofi am y tro cyntaf yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, ac fe lwyddodd i wella’r claf gymaint fel nad oedd yn rhaid iddo fynd i’r uned gofal dwys.

Mae peiriant anadlu Dr Rhys Thomas wedi ei gynllunio ar gyfer gwella symptomau cleifion cyn iddyn nhw fynd yn waeth a gorfod mynd i’r uned gofal dwys.

Felly mae gan y peiriant y potensial i leihau llwyth gwaith unedau gofal dwys ysbytai Cymru yn sylweddol.

Y gobaith yw creu 100 o’r peiriannau anadlu’r dydd, a dechrau’r wythnos roedd 80 o’r peiriannau ar eu ffordd i’r pedwar ysbyty sydd â’r nifer fwyaf o ddioddefwyr Covid-19.

Roedd y peiriannau hyn am gael eu defnyddio ar gleifion yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli i weld a ydyn nhw yn cael yr un budd o’r ddyfais ag a gafodd y claf cyntaf yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli nos Sadwrn diwethaf.

Neges Adam Price

Dywed Adam Price ar Twitter ei fod e wedi cysylltu Dr Rhys Thomas “â chwmni peirianneg yn Rhydaman, @Crclarkeandco” a hynny “er mwyn dylunio math newydd o ddyfais CPAP a allai achub nifer fawr iawn o fywydau”.

Mae’n dweud bod cadarnhad bellach o “dreialon maes llawn” er mwyn gallu datblygu’r ddyfais.