Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) a BMA Cymru yn galw am eglurder ynghylch y cyfarpar diogelu personol sydd ar gael ar gyfer gweithwyr iechyd sy’n ymdrin â’r coronafeirws.

Maen nhw’n galw am sicrwydd y bydd yr holl staff sydd angen cyfarpar yn ei dderbyn, a bod modd sicrhau bod cyflenwadau’n cyrraedd y llefydd mae eu hangen nhw fwyaf.

Fe ddaw yn sgil pryderon nad oes gan y Gwasanaeth Iechyd ddigon o gyfarpar i ateb y galw cynyddol, wrth i fwy o bobol gael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau’r feirws.

“Mae gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn poeni’n fawr am eu diogelwch, yn enwedig wrth i nifer y gweithwyr rheng flaen sy’n marw barhau i godi,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Mae angen eglurder ar stoc a chyflenwadau cyfarpar diogelu personol arnom ar frys.”

Galw am dryloywder

Mae BMA Cymru hefyd yn galw am “dryloywder” ynghylch y sefyllfa gan Lywodraeth Cymru.

“Yn syml iawn, all neb ddisgwyl i staff y rheng flaen drin cleifion heb y cyfarpar diogelu personol priodol,” meddai Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymreig y BMA.

“Rhaid i staff dderbyn sicrwydd y bydd cyfarpar diogelu personol priodol ar gael, a bod strategaeth genedlaethol yn ei lle i sicrhau y bydd cyflenwadau’n parhau.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn dryloyw gyda staff ynghylch cyflenwadau.

“Mae’n hanfodol fod staff yn cael eu diogelu fel y gallan nhw barhau i warchod cleifion.”

Yn cefnogi’r alwad mae Unsain Cymru.

“Mae angen i ni wybod ar frys, beth yw lefelau’r stoc, ble maen nhw’n cael eu storio a phryd fyddan nhw’n cyrraedd,” meddai Tanya Palmer, Ysgrifennydd Rhanbarthol yr undeb.

“Mae angen ateb gonest arnon ni nawr.”