Mae arolwg barn diweddar yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr ennill mwy o seddi nag unrhyw blaid arall yn etholiad Senedd 2021.

Mae’r Welsh Barometer Poll gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn proffwydo y gallai’r Torïaid ennill 26 o’r 60 sedd.

Daw Llafur yn ail â 23 sedd, Plaid Cymru yn drydydd â deg sedd, ac mae darogan y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol gadw’u gafael ar eu hunig sedd.

Ar hyn o bryd mae gan y Blaid Lafur 29 sedd ym Mae Caerdydd, tra bod y Ceidwadwyr yn ail blaid fwyaf â’i deg sedd.

Mae’r arolwg barn hefyd yn proffwydo sefyllfa debyg mewn etholiad cyffredinol: 25 sedd i’r Ceidwadwyr (gyda 46% o’r bleidlais), dwsin i Lafur (34%) a thri i Blaid Cymru (11%).

Llond llaw o halen

Mae’r Athro Roger Scully, a fu’n dadansoddi’r canfyddiadau, yn dweud bod angen cymryd yr arolwg barn â sawl binsied o halen.

“Mae’r canlyniadau yma wir o bwys hanesyddol i’r Ceidwadwyr yng Nghymru,” meddai. “Ond mae yna o leiaf dau reswm i gymryd gofal.

“Y cyntaf yw bod pleidleiswyr wedi bod yn gefnogol o sut mae’r Ceidwadwyr wedi delio â Covid-19 hyd yma. Dydyn ni ddim yn siŵr a fydd hynna’n parhau…

“Yr ail reswm tros gymryd gofal yw bod llawer o waith yr arolwg barn wedi cael ei gasglu cyn i Syr Keir Starmer gael ei gadarnhau’n arweinydd newydd ar y Blaid Lafur.”

Cafodd 1,008 o oedolion yng Nghymru eu holi, a chasglodd YouGov eu gwybodaeth rhwng Ebrill 3 ac Ebrill 7 – a hynny ar-lein.