Mae fferyllydd o Dal-y-bont, Ceredigion, wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gallu defnyddio’r ap y bu iddo ei ddyfeisio i helpu cleifion bregus yn ystod y pandemig diweddar.

Mae’r fferyllydd Gary Jones wedi bod yn datblygu’r ap yma bellach ers chwe blynedd, mae wedi derbyn sawl gwobr genedlaethol ac wedi derbyn sylw mawr ledled y byd, gyda fferyllwyr mor bell ag America, Canada ac Awstralia yn ei ddefnyddio.

Pwrpas yr ap yw gwneud yn siŵr fod cleifion yn derbyn y feddyginiaeth gywir o’r fferyllfa.

Wedi i Gary Jones a’i ap gael sylw yn ei bapur bro lleol, Papur Pawb fe gafodd gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau gan ymddangos ar deledu’r BBC. Ers hynny meddai Gary Jones, mae’r busnes wedi symud yn gyflym.

Mae sefyllfa’r coronafeirws diweddaraf hefyd wedi golygu fod yna hyd yn oed mwy o alw am yr ap, sydd dan yr enw Pro Delivery Manager.

Mae Gary Jones a’i bartneriaid wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru y gallai’r ap yma gael ei ddefnyddio gan dros 800 o fferyllfeydd ar draws y wlad er mwyn sicrhau fod pobl fregus, neu bobl sy’n gorfod hunanynysu yn derbyn eu presgripsiwn mewn pryd, ac yn ddiogel.

“Mae ’na 80,000 o bobl fregus yng Nghymru nad ydi’r Llywodraeth am iddyn nhw ddod allan o’r tŷ” meddai Gary Jones, “felly mae angen gwneud yn siŵr fod ganddyn nhw’r feddyginiaeth gywir.”

“Mi allai’r fferyllfa wneud y gwaith, ond mae nhw wedi bod o dan gymaint o bwysau yn ddiweddar.”

Felly mae’r Llywodraeth wedi trefnu i roi’r ap ar brawf o yfory (dydd Iau 9 Mawrth) ymlaen, gyda grwpiau o wirfoddolwyr yn ne Cymru.

Yn ôl Gary Jones bydd pob grŵp o wirfoddolwyr yn derbyn grŵp o fferyllfeydd. Bydd y gwirfoddolwr yn derbyn e bost fod angen dosbarthu presgripsiwn, fe allai yntau wedyn ddewis y weithgaredd, mynd i’r fferyllfa a’i ddosbarthu i’r claf ac yna marcio ar yr ap fod y weithgaredd wedi ei wneud.

Ap aml-ddefnyddiol

Ac mae’r ap yma wedi profi ei fod yn gallu bod o gymorth i bob mathau o gludiant. Mae Gary Jones wedi bod yn helpu yng Nghaffi Cletwr yn Nhaliesin dros y bythefnos diwethaf yn cludo bwyd i bobl leol sydd yn gaeth i’w cartrefi oherwydd hunan ynysu.

“Es i draw â’r ap iddyn nhw” meddai, “a nawr dw i’n aros am e-bost yn dweud wrtha i fod yna focs o fwyd yn barod tu allan i’r caffi a mi fydda i’n mynd a fe i’r cyfeiriad cywir. Mae pobl hefyd yn gallu archebu a wedyn cael gwybod drwy’r ap eu bod nhw’n gallu pigo’r bocs lan eu hunain fel nad oes angen iddyn nhw gerdded drwy’r siop.”

Dyfodol

Ar ôl cyfnod prawf y Llywodraeth, gobaith Gary Jones a’i bartneriaid yw y bydd yr ap yn cael ei rannu allan i fferyllfaoedd ar hyd a lled Cymru.