Bydd Cymru’n parhau i fod mewn lockdown ar ôl Sul y Pasg, meddai Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Julie James.

Bydd gweithredoedd y cyhoedd yn ystod gwyliau’r Pasg yn “siapio Cymru am flynyddoedd i ddod,” meddai.

Dywedodd yng nghynhadledd coronafeirws ddyddiol Llywodraeth Cymru fod yno arwyddion bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael effaith bositif ar ledaeniad y feirws.

Ond rhybuddiodd y cyhoedd bod yno ragor o salwch a marwolaethau i ddod ar draws y wlad.

“Mae hi bron yn ddwy wythnos a hanner ers i ni ofyn i bobol aros gartref, i weithio o adref, ac i stopio gwneud teithiau diangen,” meddai.

“Bydd y mesurau yma’n aros mewn grym wythnos nesaf. Mae’r neges i Gymru’n un syml, arhoswch gartref ac achubwch fywydau.”

Ymwelwyr yn “achosi tensiynau”

Dywed Julie James fod problemau gyda phobol yn anwybyddu’r rheolau wedi cael eu nodi gan yr heddluoedd yng Nghymru.

Mae yno dal adroddiadau o bobol yn cael eu dal yn dod i Gymru i ymweld â’u tai haf gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed-Powys gan “achosi tensiynau lleol.”

Aeth hi ymlaen i ddweud bod Heddlu Gwent wedi crybwyll gofidion ynghylch beicwyr modur hefyd.

Tra bod swyddogion Heddlu’r De wedi cael eu galw i ddigwyddiadau megis partion pen-blwydd plant, gêm bêl-droed, a grŵp yn cerdded ar hyd llwybr ‘Taith Taf’.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ar Trydar: “Rydym wedi gofyn i bobol aros gartref er mwyn arafu lledaeniad coronaferiws, ac mae yna arwyddion bod hyn yn cael effaith.

“Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth, yn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn achub bywydau.”

Ystadegau’n parhau i gynyddu

Cyhoeddwyd hefyd bod nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws yng Nghymru wedi cynyddu 33, i gyfanswm o 245.

Mae nifer y bobl eraill a brofodd yn bositif i Covid-19 bellach yn 4,073, cynnydd o 284, er bod y ffigur gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch.