Nid Ffordd Pen Llech yn Harlech yw stryd fwyaf serth byd bellach – mae stryd 10,000 milltir i ffwrdd yn Seland Newydd wedi adennill y statws hwnnw.
Roedd Stryd Baldwin yn Dunedin yn Seland Newydd wedi dal y teitl tan i Ffordd Pen Llech gael ei dyfarnu’n fwy serth fis Gorffennaf y llynedd.
Ar y pryd, dywedodd swyddogion fod gan y stryd raddiant o 37% – sydd 2% yn fwy serth na Stryd Baldwin yn Seland Newydd.
Ond wedi i “adolygiad ymestynnol” gael ei gynnal – dyfarnwyd mai Ffordd Pen Llech oedd yn ail yn y byd.
Yn ôl yr adolygiad mae gan Stryd Baldwin raddiant o 34.8% o’i gymharu â 28.6% Ffordd Pen Llech.
Dim drwgdeimlad
“Does yna ddim drwgdeimlad tuag at bobol Harlech,” meddai arweinydd yr adolygiad Toby Stoff.
“Nes i fwynhau ymweld â’r dref fis Tachwedd. Mae hi’n dref treftadaeth sy’n llawn pobol gyfeillgar.”
Dywed ymgyrchydd dros Harlech, Gwyn Headley: “Mae’n bechod – ond os yw’n serthach, mae’n serthach.”
Ffeindiodd ymchwil Gwyn Headley mai Ffordd Pen Llech oedd stryd fwyaf serth Prydain, er bod methodoleg wahanol wedi cael ei ddefnyddio i asesu Stryd Baldwin.
Roedd meini prawf y record yn nodi fod rhaid i’r stryd fod yn dramwyfa gyhoeddus, gydag arwyneb llawn ac adeiladau ar hyd y ffordd.
“Rydym yn ddiolchgar i dîm Ffordd Pen Llech am eu cais a’i hiwmor da drwy gydol y broses hon” meddai Toby Stoff.