Mae sefyllfa’r coronafeirws wedi arwain at argyfwng yn y sector godro ac yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru mae angen mesurau brys i achub y diwydiant.
Yn dilyn cau tafarndai, clybiau a bwytai ar draws Prydain ddiwedd mis Mawrth, mae rhai proseswyr llaeth sydd yn cyflenwi’r sector wedi gweld eu marchnad yn diflannu ac archebion yn cael eu diddymu dros nos.
Mae gorfodaeth y Llywodraeth ar gau busnesau a sefydliadau wedi arwain at gwymp sylweddol ym mhris marchnad llaeth, ac mae rhai ffermwyr wedi gorfod cael gwared o’u llaeth i lawr y draen yn llythrennol, gan nad ydi’r proseswyr yn medru dod i’w gasglu.
“Mae’r sefyllfa yn un ddifrifol” meddai Dai Miles, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru.
“Mae llawer o ffermwyr sydd â chytundebau gyda’r proseswyr yma wedi gweld eu prisiau yn cal eu torri, mewn rhai achosion mae nhw’n wynebu oedi mawr cyn cael eu talu ac eraill â dim opsiwn arall ond cael gwared ar eu llaeth.”
Dim yswiriant
Yn ôl yr undeb, ni fydd y ffermwyr hynny yn gymwys o ran yswiriant chwaith gan nad ydi “methiant yn y farchnad” yn ddigonol o ran y polisi. Felly mae’r baich o’r gost a’r colledion i gyd yn cael ei ysgwyddo gan y cynhyrchwyr.
“Dydyn ni ddim yn siarad am rhyw ychydig o ffermwyr godro yma, mae’r oblygiadau ar y sector llaeth yn anferthol” meddai Dai Miles.
“Mae ‘na angen am becynnau i’w cefnogi ar fyrder.”
Mae tua 25% o ffermwyr godro yng Nghymru yn cyflewni proseswyr sydd wedi cael eu heffeithio ar hyn o bryd.
“Dyw rhai o’r ffermwyr godro yma ddim yn gymwys i gael y gefnogaeth ariannol a gyhoeddwyd gan y Trysorlys, a bydd methiant y ffermydd yma’n cael effaith ddifrifol ar y gadwyn gyflenwi bwyd unwaith y bydd pethau yn dechrau dod yn ôl i normalrwydd” meddai Dai Miles.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gofyn i’r Trysorlys am
- fesurau sydd wedi eu teilwra i gefnogi’r ffermwyr yma, sydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau sydd yn eglur i’r ffermwyr.
- Pecyn ariannol brys dros y tymor byr i’r rhai sydd wedi gorfod cael gwared ar eu llaeth
- Ymyrraeth a Chymorth Storio Preifat
- Stopio dogni cynnyrch llaeth yn y sector manwerthu
“Mae hyn yn fater brys” meddai Dai Miles.
“Mae angen i’r Llywodraeth roi’r mesurau yma yn eu lle ar fyrder. Dydi’r sefyllfa yma ddim am wella yn fuan iawn a dydyn ni ddim eisiau gweld ein diwydiant llaeth ni yn marw. Mae angen pob opsiwn ar y bwrdd a’u hystyried o ddifrif.”