Mae Gŵyl Gregynog wedi cael ei chanslo eleni yn sgil y pandemig coronafeirws a chyngor gan y Llywodraeth a’r Cyngor Celfyddydau.

Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal rhwng Mehefin 15 a 21 eleni.

Mae 2020 yn nodi can mlynedd ers i Gwendoline a Margaret Davies brynu Llys Gregynog, manordy ger y Drenewydd, a chreu canolfan gelfyddydau yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gŵyl Gregynog yw’r ŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yng Nghymru ac roedd i fod i ddathlu ei ganmlwyddiant eleni gyda chyngherddau, trafodaethau, ac arddangosfeydd wedi eu hysbrydoli gan Gwendoline a Margaret Davies.

Wrth siarad ar ran Bwrdd y Cyfarwyddwyr, dywed Dr Rhian Davies: “Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod ym mha sefyllfa y byddwn ynddo fis Mehefin, yn enwedig o ystyried trefniadau teithio nifer o artistiaid rhyngwladol yr oeddem wedi eu gwahodd i Gregynog eleni.

“Mae iechyd holl berfformwyr yr ŵyl, y gynulleidfa a’r staff wedi bod yn bwyslais wrth ddod i’r penderfyniad hwn a bydd Sarah Yeomans, Rheolwr y Swyddfa Docynnau, yn cysylltu gydag ein cwsmeriaid yn ystod dyddiau nesaf.”