Mae’r darlledwr Huw Edwards wedi datgelu ei fod wedi gadael yr ysbyty yn ddiweddar ar ol gwella o niwmonia.

Aeth Huw Edwards, 58 oed, ati i ar Twitter i ddiolch i’r Gwasanaeth Iechyd a fu’n edrych ar ei ol, ac fe ddywedodd wrth ei ddilynwyr y bydd yn ôl ar raglen newyddion y BBC yr wythnos hon.

Fe wnaeth e hefyd bwyso ar bobl i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth yn ystod argyfwng y coronafeirws.

“Diolch mawr i @KingsCollegeNHS am y gofal ardderchog #niwmona” meddai ar Twitter.

“Mi fydda i nol ar @BBCNews yr wythnos hon- arhoswch yn ddiogel bawb a dilynwch yr argymhellion #ArosAdrefAchubBywyd.”

Roedd yno lun ohono hefyd yn edrych yn iach ac yn dal peint o gwrw.

Cyfarchion

Derbyniodd nifer fawr o gyfarchion gan ei filoedd o ddilynwyr ar Twitter, ac un gan ei gyd-Gymro, yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts: “Balch iawn, iawn dy fod yn well.”