Mae criw o wyddonwyr yn y gogledd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o fesur faint o bobol sydd gyda’r coronafeirws.
Bydd y gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn ceisio gwneud hyn drwy fonitro lefelau’r feirws sy’n bresennol mewn carthion.
“Byddai cael amcangyfrif cywir o faint o’r haint sy’n cylchredeg yn y gymuned gyfan yn wybodaeth werthfawr i’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer lledaeniad yr haint a’i reoli,” meddai’r Athro Davey Jones o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, sy’n un o arweinwyr y project.
Gan nad yw nifer o bobol sy’n dioddef o’r feirws yn dangos symptomau ar hyn o bryd, nid yw cyfrif y nifer o gleifion sydd mewn ysbytai yn ffordd ddibynadwy o wybod pa ganran o’r boblogaeth sy’n heintiedig.
Profi’r dŵr sy’n mynd lawr y toilet
Bydd y gwyddonwyr yn profi’r dŵr budur sy’n dod o doiledau am arwyddion o Cofid-19, gan fod “swm helaeth” o’r feirws i’w gael ym maw dynol y rhai sy’n ei gario.
Gan mai un neu ddwy ganolfan ddŵr sy’n gyfrifol am y “rhan fwyaf” o’r dŵr mewn dinasoedd mawr, bydd un sampl yn cynrychioli miloedd o bobol.
Mae’r gwyddonwyr hefyd yn gweithio gyda Dŵr Cymru, Uni Utilities a Thames Water i gyflawni eu hymchwil.
“Er bod y brifysgol wedi gorfod gohirio’r rhan fwyaf o’i phrosiectau ac ymchwil presennol, mae’n amlwg oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol yr ymchwil hwn, bod yn rhaid bwrw ymlaen â’r gwaith,” meddai’r Athro David Thomas.