Mae dynes ym mhentref Llanfairfechan yn Sir Conwy yn apelio yn daer am ddeunyddiau i wneud masgiau wyneb ar gyfer gweithwyr iechyd ar ôl i’r galw amdanyn nhw gynyddu’n sylweddol.

Hyd yn hyn mae Tracy Williams, sy’n rhiant maeth, wedi gwneud tua 1,000 o fasgiau wyneb ar gyfer nyrsys a gweithwyr eraill yn y Gwasanaeth Iechyd a chartrefi gofal.

Mae hi’n rhoi’r masgiau yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd eu hangen.

Fe ddechreuodd Tracy Williams wnïo’r masgiau yn ei chartref yn Llanfairfechan ar ôl gweld apêl ar Facebook am fasgiau ar gyfer nyrsys.

“Roedd y galw wedi cynyddu lot a dw i bellach yn eu gwneud nhw ar gyfer cartrefi gofal a staff nyrsio. Mae’r nyrsys yn gallu eu gwisgo nhw yn yr adrannau sydd ddim yn rhai gofal dwys, pan mae’r masgiau meddygol yn brin ac yn cael eu cadw ar gyfer wardiau a chleifion Covid-19.”

Masg mewn munudau

Mae’n cymryd tua 15 munud i wneud masg ac mae Tracy Williams yn dweud ei bod bellach yn gweithio “flat out ond dw i wedi perffeithio’r grefft fel ei fod fel llinell gynhyrchu erbyn hyn!”

Mae hi’n defnyddio deunyddiau cotwm i wneud y masgiau – “dw i’n trio defnyddio cotwm efo patrymau neis er mwyn codi calonnau pobl.”

Mae hi bellach wedi dechrau gwneud capiau gan fod Covid-19 yn gallu glynu yn y gwallt ac mae gwisgo penwisg yn helpu gyda hynny, meddai.

Os oes gan rywun ddiddordeb mewn rhoi deunyddiau i Tracy Williams maen nhw’n gallu anfon e-bost at williams6576@hotmail.co.uk  neu ffonio 07838177660.