Mae Robert Croft, un o fawrion Clwb Criced Morgannwg, yn un o nifer o gyn-gricedwyr sy’n galw am “fwrw’r coronafeirws am chwech”.
Mae’r Cymro Cymraeg yn ymddangos mewn fideo gan yr Athro Umesh Khot, llawfeddyg yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sy’n cynghori pobol i wrando ar Lywodraeth Prydain ac aros gartref yn ystod ymlediad y feirws.
Adeg ffilmio’r fideo ‘Let’s hit Covid-19 for six!’ i Wasanaeth Iechyd Bae Abertawe, a gafodd ei chyhoeddi ddoe (dydd Iau, Ebrill 2), roedd dros 900 o achosion wedi’u cofnodi yng Nghymru.
Ac yntau’n gyn-gricedwr ei hun, fe wnaeth yr Athro Umesh Khot alw ar y Cymro Cymraeg a nifer o gyn-gricedwyr eraill – Alec Stewart, Nasser Hussain a Darren Gough – i ategu a lledaenu’r neges am beidio â mynd allan.
Cyngor y cricedwyr
Eglura Robert Croft mai neges Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd yn y fideo, a bod mwy na 1,000 o bobol wedi marw o’r feirws yng ngwledydd Prydain.
“Mae’r ffigurau’n codi felly sut allwn ni helpu i stopio’r ymlediad?” meddai Robert Croft ar ddechrau’r fideo.
Mae Alec Stewart yn atgoffa pobol i beidio â mynd allan ac yn rhybuddio nad oes modd gweld y feirws, ac felly does dim ffordd o wybod os ydych chi’n trosglwyddo’r feirws i rywun arall drwy fynd allan.
Dywed Darren Gough ein bod ni’n “bobol lwcus”, ond nad yw “staff y Gwasanaeth Iechyd yn gallu osgoi” peryglu eu hunain, a’u bod nhw “allan bob dydd a nos yn peryglu eu bywydau a bywydau pobol sy’n agos atyn nhw”.
“Plis arhoswch mewn os nad yw’n gwbl angenrheidiol,” meddai wedyn.
“Dydyn nhw ddim yn gofyn am lawer,” meddai Nasser Hussain am staff y Gwasanaeth Iechyd.
“Ond ar yr achlysur yma, maen nhw wedi gofyn i ni i gyd aros mewn fel y gall yr wythnosau a’r misoedd i ddod fod ychydig yn haws iddyn nhw.
“Os yw eu bywydau nhw’n haws, does bosib y bydd hynny o fudd i ni i gyd yn y pen draw.”
Rhagor o gyngor gan Robert Croft
“Felly beth sy’n eich stopio chi?” meddai Robert Croft wrth gloi’r fideo.
“Edrychwch ar ôl eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau.
“Edrychwch ar ôl eich cymdogion a staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n peryglu eu bywydau bob dydd.
“Amddiffynnwch ein gwlad. Stopiwch yr ymlediad.”
‘Cyrraedd carfan wahanol o’r gymdeithas’
Yn ôl yr Athro Umesh Khot, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Clinigol y Gyfarwyddiaeth Lawfeddygol yn Ysbyty Treforys, mae’n gobeithio cyrraedd “carfan wahanol o bobol” drwy greu’r fideo, sydd wedi’i sgriptio gan ei ferched.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Prydain yn cynghori pobol i osgoi mynd allan heblaw am siopa bwyd, rhesymau iechyd a gwaith os nad oes modd gweithio o adref.
Os bydd pobol yn mynd allan, rhaid aros dau fetr i ffwrdd o bobol eraill bob amser, a golchi dwylo ar ôl mynd adref – mae golchi dwylo’n aml yn y cartref yn cael ei argymell hefyd.
“Mae’r neges wedi’i llunio i gyrraedd strata gwahanol o’r gymdeithas iddyn nhw gael deall y gwaith mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei wneud,” meddai’r Athro Umesh Khot.
“Efallai y bydd hefyd yn codi hyder yn staff y Gwasanaeth Iechyd.
“Wrth fod pobol ddim yn dilyn canllawiau swyddogol y llywodraeth, maen nhw’n peryglu bywydau staff y Gwasanaeth Iechyd.”