Ymddengys y bydd Eddie Jones yn parhau fel prif hyfforddwr Lloegr tan Gwpan y byd 2023 drwy gytuno ar estyniad dwy flynedd i’w gytundeb presennol.

Mae’r gwr o Awstralia, sy’n 60-mlwydd-oed, wedi ymrwymo tan Awst 2021 ar hyn o bryd ond mae trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen gyda’r Undeb Rygbi ers sawl mis.

Mae Jones wedi ymuno â gweithredwyr Undeb Rygbi Lloegr gan dderbyn toriad cyflog o 25% fel rhan o ymateb y sefydliad i bandemig y coronafeirws, ond nid yw ansicrwydd ynghylch y sefyllfa wedi atal cynllunio at y dyfodol.

Mae record Jones gyda Lloegr yn lled-llwyddiannus: dwy gamp lawn a rownd derfynol Cwpan y Byd, ond gydag ambell berfformiad siomedig mewn gemau pwysig.