Am y tro cyntaf erioed bydd Aelodau’r Cynulliad yn cyfarfod heddiw (Ebrill 1) gan ddefnyddio cyswllt fideo.
Yn dilyn cynnal cyfarfod llai, dan drefn Senedd frys, yr wythnos diwethaf, mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad nawr wedi penderfynu newid i gynnal Cyfarfodydd Llawn dros y we.
Bydd Elin Jones, y Llywydd, sydd yn hunan ynysu ar ôl profi’n bositif a covid-19 yn cadeirio’r cyfarfod.
Yn ôl yr arfer bydd Aelodau’r Cynulliad yn clywed datganiadau gan y Prif Weinidog a gweinidogion eraill, a bydd cyfle iddynt yna ofyn cwestiynau.
Er hyn, oherwydd yr argyfwng coronafeirws mae’r pleidiau wedi cytuno i leihau’r nifer o’u haelodau fydd yn bresennol yn y cyfarfod.
Nifer o aelodau bydd yn cymryd rhan o bob plaid:
- Llafur: 6
- Y Ceidwadwyr: 3
- Plaid Cymru: 2
- Plaid Brexit 1
Mae gan bob Aelod sydd ddim yn aelod o grŵp yr hawl i fynychu.
Mae rheolau’r Cynulliad wedi eu diwygio fel mai dim ond 4 Aelod sydd eu hangen i bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn fod yn ddilys.