Mae nifer y marwolaethau ac achosion newydd o’r coronafeirws wedi gostwng yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 31).

Roedd yna 112 o achosion newydd yn ffigyrau dydd Mawrth, o’i gymharu â 210 ddoe (dydd Llun, Mawrth 30).

Cafodd saith o farwolaethau eu cyhoeddi heddiw, hanner y cyfanswm a gafodd ei gyhoeddi ddoe.

“Dylai hyn gael ei nodi, er bod y nifer o achosion yn achosion yn is heddiw, ni ddylai hyn gael ei ystyried yn ogwydd gan fod rhifau achosion yn gallu newid yn ddyddiol,” meddai Dr Giri Shankar, cyfarwyddwr digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y pandemig coronafeirws.

Dywed fod y feirws “ymhob rhan o Gymru”, gan alw ar bobol i aros gartref er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.

Mae cyfanswm y nifer o achosion ymhob bwrdd iechyd yn edrych fel hyn:

  • 590 yn Aneurin Bevan
  • 86 yn Betsi Cadwaladr
  • 375 yng Nghaerdydd a’r Dyffryn
  • 189 yng Nghwm Taf
  • 94 yn Hywel Dda
  • 23 ym Mhowys
  • 167 ym Mae Abertawe

Mae 13 o achosion gan ddinasyddion sydd y tu allan i Gymru a dyw lleoliad 26 o achosion ddim wedi’u cadarnhau.