Cafodd strydoedd Llandudno ymwelwyr o fath gwahanol ddydd Sadwrn (Mawrth 28) – ond mae’r creaduriaid â phedair coes wedi gadael erbyn hyn, yn ôl yr heddlu.

Roedd geifr y Gogarth wedi penderfynu dod i lawr i grwydro’r strydoedd.

Ai am fod mwy o le iddyn nhw grwydro’n rhydd, tybed? Pwy a ŵyr.

Ond fe aethon nhw yr un mor ddi-ffws ag y daethon nhw, yn ôl yr heddlu.

Mae ymweliad y geifr yn ddigwyddiad cymharol arferol i bobl Llandudno, ond er hynny, mae’r nifer o luniau a ymddangosodd ohonyn nhw ar Twitter dros y penwythnos yn profi eu bod nhw wastad yn creu ychydig o gynnwrf.

Ac mae angen codi gwên ar amser cythryblus, on’d oes?

Un ar ben garej

Dywedodd Julian Hughes Pennaeth Rhywogaethau’r RSPB ym Mangor bod cyn lleied o draffig ar y ffyrdd a cherddwyr yn golygu bod y geifr wedi mentro ymhellach i mewn i’r dref nag arfer.

“Maen nhw’n aml yn dod lawr o’r Gogarth Fawr ond yn amlwg mae nhw’n mentro i bob math o wahanol lefydd y tro yma gan ei bod mor dawel.

“Welais i lun o un ar ben garej rhywun bore ma!”