Mae mwy na 100 o iPads yn cael eu rhoi i gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i breswylwyr gyfathrebu wyneb yn wyneb â’u hanwyliaid.

Cafodd y cyngor y syniad ar ôl gweithredu cyfyngiadau ymweld mewn cartrefi preswyl oherwydd y coronafeirws.

Bydd 110 o ddyfeisiau’n cael eu dosbarthu ar draws saith cartref, a bydd yn sicrhau bod preswylwyr yn cadw mewn cysylltiad drwy alwadau fideo â’u teuluoedd a’u perthnasau tra byddan nhw’n aros yn y cartref er mwyn diogelu eu hunain rhag cael eu heintio â’r coronafeirws.

Cadw mewn cysylltiad

Yn ôl y Cyngor, mae staff wedi bod yn gweithio’n agos gyda theuluoedd i sicrhau eu bod nhw’n cadw mewn cysylltiad â’u hanwyliaid yn y sefyllfa newidiol hon.

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu rhoi iPads i’n holl gartrefi gofal,” meddai’r Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol.

“Bydd yn helpu’r preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd yn ystod yr adeg anodd yma na welwyd ei thebyg o’r blaen.

“Mae’n ddealladwy y bydd y cyfyngiadau angenrheidiol hyn ar ein cartrefi gofal yn achosi gofid i’r teulu a’r preswylydd, felly gobeithio y bydd defnyddio’r dechnoleg hon yn helpu o ran hynny.

“Rydym eisoes wedi gweld rhai canlyniadau cadarnhaol ac mae preswylwyr wedi bod yn falch dros ben i weld wynebau eu teulu.”