Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Richard Parks yn fwy cyfarwydd â hunan-ynysu na’r rhan fwyaf ohonom.
Mae ar fin ennill lle yn y Guiness Book of Records am sgïo mwy na neb ar ei ben ei hun yn Antarctica (2,299 o filltiroedd). Yn gynharach eleni, roedd wedi sgïo o arfordir Antarctic i fyny i Begwn y De mewn 28 diwrnod – sy’n golygu dringfa o 3,000 metr, cymaint â mynydd yn yr Alpau, yn ogystal â’r pellter.
Eto i gyd, mae bod wedi’i ynysu gyda’i wraig a’i blentyn mewn fflat ym Mae Caerdydd yn brofiad dieithr iddo.
“Mae’n eironig a dweud y gwir,” meddai mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Guardian heddiw. “Bob mund ro’n i ar fy nhaith, ro’n i’n dyheu am fod gyda’m teulu. Ond mae cael gwireddu’r dymuniad wedi golygu heriau hefyd. Y diwrnod o’r blaen, fe welais i Jo, sy’n dal swydd eithaf uchel, yn gweithio yn nhŷ chwarae Freddie ar y balconi yn y fflat.”
Rai blynyddoedd ar ôl ennill pedwar cap dros Gymru, daeth ei yrfa fel chwaraewr rygbi i ben gydag anaf i’w ysgwydd yn 2009.
Ar ôl dioddef cyfnod o iselder ac anobaith penderfynodd droi at fynydda fel ei her newydd – camp a feistrolodd yn rhwydd. O fewn dwy flynedd, fe ddaeth y cyntaf i sefyll, yn yr un flwyddyn galendr, ar fynydd uchaf pob un o’r saith cyfandir ac ar Begwn y Gogledd a Phegwn y De – her sy’n cael ei galw’n gam lawn yr anturiaethwyr.