Mae hunan-ynysu a’r coronafeirws wedi arwain at bobol yn prynu gormodedd o alcohol, yn ôl dyn busnes yng Nghaerdydd.

Nathaniel Williams sy’n gyfrifol am gadw siopau gwerthu gwirod, cwrw a gwin The Bottle Shop yn y Rhath a The Bottle Shop ym Mhenarth.

Mae’n egluro bod y ddwy gangen – yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth – bellach ar gau a bod y busnes ond yn delifro cwrw i dai pobol erbyn hyn.

Gellir ordro’r alcohol ar y We ac mae “llif yr archebion wedi’n llethu” meddai.

Ac “er mwyn lliniaru’r llif” mae’r siopau yn gofyn bod  cwsmeriaid yn gwario o leiaf £50 ar alcohol.

Er bod yr archebion di-baid yn llifo fewn, nid yw Nathaniel Williams yn gyffyrddus gyda’r sefyllfa.

“Mae [hunan-ynysu] yn annog lefel o brynu sydd ddim yn iachus,” meddai.

“Pan mae’r broses yn arafu lawr ac mae pobol yn gorfod meddwl am [eu] cyllideb a beth maen nhw eisiau, yna maen nhw’n cael beth maen nhw ei angen.

“Rydym wedi stopio’r disgownt o brynu swm uchel o nwyddau – y disgownt sydd gyda ni fel arfer yn y siopau. Mae hynna jest er mwyn cadw’n hunain i fynd.

“Ar hyn o bryd mae’r gadwyn gyflenwi yn agored – yn enwedig gyda gwin  – ond rydym ychydig yn ansicr â chwrw.”

Y dyfodol

 Mae’r siopau yn dal i ennill eu hincwm arferol ac yn dal i dalu eu staff, ond nid yw Nathaniel Williams siŵr am ba mor hir y bydd y sefyllfa yma’n para.

Yn gyffredinol mae’n ofidus am y dyfodol, ac mae’n awgrymu y gallai’r galw am alcohol godi’n rhy uchel.

“Dw i’n poeni ychydig am [y sefyllfa] o bosib mewn wythnos,” meddai. “Ar hyn o bryd dw i’n mynd i’r archfarchnadoedd am fy mwyd ac ati – y rhai mawr, ddim y siopau cornel.

“Maen nhw’n blaenoriaethu bwyd dros alcohol. Mae’r silffoedd alcohol yn parhau’n eitha’ gwag.

“Felly wrth i bobol chwilio am ddulliau eraill [o gael gafael ar alcohol], wel, efallai bydd y siopau cornel yn cadw pethau i fynd. Dw i ddim yn gwybod.

“Mae’n dibynnu ar ba mor llym yw’r lockdown.”

Ailagor y siopau?

 Ar ddydd Iau cyhoeddwyd bod modd i siopau sy’n gwerthu diodydd meddwol aros ar agor.

Mae Nathaniel Williams yn egluro y gallai ei siopau ailagor i werthu diodydd dros y cownter cyn belled nad yw cwsmeriaid yn yfed yno fel  y gallan nhw wneud fel arfer.

Ond mae’n ategu y byddai’n rhaid cyflwyno mesurau ‘pellhau cymdeithasol’  – cyfyngu faint sydd yn y siop ac ati – ac mae’n dweud bod y rhain yn peri her.

“Y broblem yw bod … dim digon o staff,” meddai. “Ac os byddai un ohonom yn ei ddal byddai’n rhaid i bob un ohonom gau lawr.”