Mae dynes o ogledd Cymru wedi erfyn ar bobol i “aros adref a dilyn y rheolau” yn sgil marwolaeth ei chariad yr wythnos hon.
Dechreuodd Tim Galley, 47, o Wrecsam, deimlo’n sâl ddydd Sul (Mawrth 22), a chafodd ei ddarganfod yn farw ddydd Mawrth (Mawrth 24), ac mae lle i gredu yr oedd wedi cael ei heintio gyda’r coronafeirws.
Mewn neges ar Facebook mae ei gariad, Donna Cuthbert, 46, wedi talu teyrnged i’w “ffrind gorau”, ac wedi erfyn ar y cyhoedd i gymryd gofal.
“Plîs, plîs gwrandewch ar y cyngor i aros adref a dilyn y rheolau,” meddai. “Mae’r feirws yn ddifrifol ac yn cymryd ein hanwyliaid oddi wrthym.”
Mewn cyfweliad gyda North Wales Live dywedodd Donna Cuthbert bod ei chariad wedi mynnu ei fod yn teimlo’n iawn – er iddo gael gwres – a dywedodd bod dim problemau meddygol ganddo.
Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau (Mawrth 26) bod 28 o bobol wedi marw o’r firws, a bod 741 achos wedi’u cadarnhau.