Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r gyn-athrawes Gymraeg a Drama, Gwawr Davies, sydd wedi marw.
Mae nifer o bobol wedi talu teyrnged iddi ar wefan facebook, gan gynnwys yr actor Morgan Hopkins, a oedd yn gyn-ddisgybl iddi yn Ysgol Cwm Rhymni, yn y Coed-duon.
“Ei harfau miniocaf wrth ddysgu oedd llawenydd, cynnwrf, rhyfeddod a sbort di-ben-draw. A’r gair ‘wmff’,” meddai.
“Roedd hi’n adweithydd niwclear o fenyw, yn gorwynt o angerdd a chwerthin, yn graff, yn greadigol, yn hael.”
“Talentog”
Tra bod yr actor John Pierce Jones wedi dweud amdani: “Merch annwyl llawn egni a thalentog iawn.
“Mae’r llu o actorion a pherfformwyr mwyaf amlwg ein gwlad ni wedi cael eu dylanwadu ganddi fel athrawes.
“Cofiaf hi fel ffrind hwyliog, direidus llawn hwyl, sbort ac egni pan oeddem yn gyd fyfyrwyr gyda’n gilydd ym Mangor.”