Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dyn a dynes gael eu darganfod mewn tŷ yng Nghaerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Stryd Fawr, Abergwili tua 6yh nos Iau (Mawrth 26).
Cafwyd hyd i gyrff y dyn a’r ddynes yn y tŷ a dywed yr heddlu bod eu marwolaethau yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd.
Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau fu farw ond mae eu teulu wedi cael gwybod ac mae’r crwner wedi’i hysbysu.