Mae chwech yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Bellach, mae cyfanswm o 28 o bobol wedi marw o’r feirws, ac mae nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau wedi codi gan 113, i 741.
Yn ôl Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Achosion yr ICC yn yr ymateb i COVID-19, mae nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch mewn gwirionedd.
“Mae COVID-19 [coronafeirws] bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru…,” meddai.
“Cydymdeimlwn â theuluoedd a ffrindiau’r rheiny sydd wedi’u heffeithio.
“Ac rydym yn gofyn bod y rheiny sydd yn adrodd y sefyllfa yn parchu cyfrinachedd cleifion.”
Cynhadledd i’r wasg
Daw hyn wedi i Dr Frank Atherton, prif Swyddog Meddygol Cymru, ddweud bod oddeutu 80% o’r boblogaeth yn debygol o ddioddef o’r coronafeirws “ar ryw bwynt”.
Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd hefyd ei fod yn “gyfnod heriol iawn i’r Gwasanaeth Iechyd” a bod staff yn gweithio mewn “amseroedd digynsail”.
“Mae’n mynd i fod yn dynn ac mae’n mynd i fod yn anodd ac mae’n mynd i fod yn amser anodd i staff,” meddai.
Yn ôl adroddiadau, mae dau ddyn – un yn Wrecsam a’r llall yng Nghaerfyrddin – yn eu plith, a does dim lle i gredu eu bod nhw’n dioddef o broblemau iechyd fel arall.