Bydd fersiwn o’r gêm Monopoly sydd wedi’i leoli ar Ynys Môn, yn cael ei lansio yn Plas Newydd ger Llanfairpwll heddiw, ac ar werth yn y siopau yfory.
Roedd y ffaith fod mab Tywysog Cymru a’i wraig wedi dod i fyw ar yr ynys yn hollbwysig wrth fynd ati i greu’r fersiwn newydd, yn ôl y cwmni tu ôl i Mônopoli.
“Cafodd Mônopoli ei gynhyrchu oherwydd bod Ynys Môn wedi ei roi ar fap y byd gan y Briodas Frenhinol ac mae’n llawn cyfeiriadau brenhinol gan gynnwys llun u Dduges Caergrawnt ar gaead y blwc,” meddai Mark Hauser o Winning Moves UK.
Yn ogystal â siop bapur leol Kate a Wills, mae Mynydd Parys ger Amlwch ac Ynys Lawd ger Caergybi ar fwrdd y gêm.
“Rydw i wrth fy modd bod Ynys Môn yn ymuno â theulu enwog Monopoly,” meddai’r Cynghorydd Gwilym O. Jones, Cadeirydd Cyngor Môn.
Ymysg y llefydd eraill ar fwrdd y Mônopoli y mae Benllech, traeth Llanddwyn, y ddwy bont sy’n cysylltu â’r tir mawr ac atomfa Wylfa.