Mae arbenigwr ar ordewdra wedi galw am godi treth ychwanegol ar fwydydd afiach, er mwyn lleihau’r nifer o bobl sydd dros eu pwysau.

Yn ôl Dr Nadim Haboubi – sy’n cynghori’r Llywodraeth ar ei strategaeth i fynd i’r afael â gordewdra – mae angen codi mwy am fwydydd sy’n gwneud pobol yn dew.

“Pam na roddwn ni dreth ar fwydydd sydd ddim yn iachus, fel yr ydym yn gwneud ar sigarennau ac alcohol?” gofynna Dr Nadim Haboubi.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw hawl dros godi trethi ar y funud.

Mae’n cael ei honni fod trin pobol gordew yn costio £73miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd yg Nghymru.

Ac yn ôl y BBC mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gorfod gwario mwy na £3m ar addasu 42 ambiwlans i gludo cleifion gordew.

Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru mae tua 22% o oedolion Cymru yn ordew.