Mae criw o wirfoddolwyr o Gaernarfon wedi mynd ati greu Grŵp ar-lein ac ar lawr gwlad i gefnogi a helpu aelodau mwyaf bregus eu cymunedau.

Yn ôl Cynghorydd Ward Peblig yn y dref, Jason Wynne Parry, prif bwrpas y grŵp yw cynnig gwasanaeth a chymorth i’r henoed a phobl bregus sy’n hunan-ynysu ac angen rhywun i nôl bwyd, presgripsiwn neu hyd yn oed fynd â’r ci am dro iddyn nhw.

Dechreuodd y grŵp wedi i elusen “Gafael Llaw” gynnal cyfarfod cyhoeddus yn y Clwb Rygbi yng Nghaernarfon.

“Daeth tua 30-40 o bobl i’r cyfarfod,” meddai Jason Parry, “a’r un cwestiwn oedd yn codi sef beth oedd yn mynd i ddigwydd i bobl fregus a phobl heb deulu yn ystod hyn i gyd? Ac mi roedd o’n glir o’r cyfarfod fod pobl yn fodlon rhoi eu hamser i drio helpu.”

Gwirfoddolwyr

O hyn, ffurfiwyd y grŵp Facebook “Cofis Curo Corona”, a gan fod tref Caernarfon wedi ei rhannu yn bedair ward, mae cydlynydd i bob ardal yn Peblig, Cadnant, Seiont a Menai, a gwirfoddolwyr ym mhob ardal.

Mae’r ymateb i’r galw am wirfoddolwyr wedi bod yn arbennig, gyda phob cydlynydd, Jason Parry, Cai Larsen, Dewi Jones a Dawn Jones yn derbyn galwadau a negeseuon gan bobl yn cynnig helpu.

Dydd Sadwrn, yn ward Peblig yn unig meddai Jason Parry fe ddaeth tua 17 o wirfoddolwyr at ei gilydd i rannu taflenni gwybodaeth o gwmpas.

“Roedd gynnon ni tua 800 o dai i fynd iddyn nhw, ond mi wnaethon ni’r stad i gyd mewn rhyw hanner awr.”

“Bron bob dydd ers hynny, rydw i wedi bod yn derbyn tua 10 galwad y dydd yn gofyn i fi nôl presgripsiwn yn bennaf. Dwi wedi nôl bwyd i un ond presgripsiwn ydi’r peth mwyaf.

“Mae’r system wedi gweithio’n reit dda hyd yn hyn lle dwi’n gorfod mynd atyn nhw hefo ffurflen ganiatâd yn y bora, a wedyn dwi’n mynd a honno i’r fferyllfa a wedyn mynd yn ôl tua 2 o’r gloch i’w codi nhw a mynd a fo’n ôl i’r cartrefi.”

“Yn amlwg mae ‘na ganllawiau wedi eu rhoi yn eu lle i bob gwirfoddolwr, ac asesiad risg wedi ei wneud. ‘Da ni’n gwisgo menig a masg, dwi’n gadael pethau wrth y drws a sanitizer yn y car.”

Cymuned gref

Mae yna lawer yn amlwg yn gwerthfawrogi’r gwaith mae’r grŵp yma yn ei wneud ac yn fodlon helpu mewn unrhyw ffordd.

Mae gŵr nad yw’n gallu gweithio ar hyn o bryd wedi cynnig ei fan er mwyn ei defnyddio i nôl y nwyddau. Hefyd, mae cwmni lleol – nad oes arnyn nhw eisia§u cael eu henwi am nad ydyn nhw eisiau unrhyw glod – wedi cynnig eu gweithwyr i helpu. Gan ei fod dal i dalu ei weithwyr, ond oherwydd nad ydyn nhw ddim yn medru parhau a’r gwaith, mae’r perchennog am iddyn nhw wneud gwaith yn y gymuned.

“Mae’n ffantastig!” meddai Jason Wynne Parry.

“Er fod y feirws yma’n beth drwg, mae o wedi dod â’r gorau allan o rai pobl. Mae o’n dangos pa mor gryf ydi ein cymuned ni yma yng Nghaernarfon.”