Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, ymhlith yr achosion newydd o’r coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, 24 Mawrth).
Dywed ei bod wedi hunan-ynysu yn ei chartref ers nos Iau, ond bod ei symptomau yn “ysgafn iawn”.
“Roedd fy symptomau mor ysgafn fel y gallwn yn hawdd fod wedi eu hanwybyddu a pherswadio fy hun nad oeddwn i’n risg i unrhyw un,” meddai.
“Dw i mor falch ‘mod i wedi dilyn y cyngor neu fe fedrwn i fod wedi bod yn cerdded o gwmpas Ceredigion yn lledaenu’r feirws.
“Mae’r neges o fy mhrofiad i yn gwbl glir – hyd yn oed gyda’r symptomau ysgafna’ bosib, mae’n rhaid hunan-ynysu. A pheidiwch anwybyddu unrhyw symptom.”
Er bod Aelodau eraill o’r Cynulliad wedi hunan-ynysu am gyfnodau, Elin Jones yw’r gyntaf i gadarnhau iddi brofi’n bositif am y feirws.
“Dw i’n parhau i hunan-ynysu a dilyn canllawiau,” meddai mewn datganiad y pnawn yma.
“Diolch i’r rhai sy’n gweithio yn ein cymunedau a’r rhai sy’n gyfrifol am gymryd y penderfyniadau a fydd yn taclo a threchu’r feirws yma.”