Mae Prif Weinidog Cymru’n galw am ohirio’r trafodaethau ar ddyfodol y berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropaidd, ac am ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i ddiwedd 2020.

Mewn llythyr at Boris Johnson, dywed Mark Drakeford bod angen estyniad o’r fath er mwyn i’w llywodraethau allu canolbwyntio ar ymladd y coronafeirws.

“Mae pedair cenedl y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda’i gilydd i ymladd y feirws a rhaid i’r ymdrech hon ddal i gael ein sylw llawn gyhyd ag y bydd angen,” meddai yn ei lythyr.

“Mae angen rhoi’r un ystyriaeth i’n cymdogion yn Ewrop sy’n ymladd yr un frwydr yn erbyn y feirws.

“Mae’n gwbl anymarferol i barhau’r trafodaethau yn unol â’r amserlen wreiddiol o dan yr amgylchiadau hyn.”

Ergyd economaidd

Mae rhesymau economaidd hefyd dros ohirio, meddai.

“Mae’n amlwg nad nawr yw’r amser i ychwanegu’r math o sioc economaidd a fyddai’n deillio o unrhyw newid yn y berthnas fasnachu rhyngom a’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd 2020, ar ben y tanchwa economaidd sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.

“Dw i’n pwyso arnoch felly i geisio oedi yn y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd a cheisio estyniad i’r cyfnod pontio.

“Fe ellid ailgychwyn y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan amgylchiadau mwy normal ac ymarferol.”

Mae hefyd wedi gyrru copïau o’r llythyr at brif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon.