Mae’r cwmni ceir Aston Martin yn gohirio cynhyrchu yn eu safleoedd yn y Deyrnas Unedig am bron i fis yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae hyn yn cynnwys eu safle yn Saint Athan ym Mro Morgannwg, lle mae’r model DBX newydd yn cael ei adeiladu.

Dywed y grŵp y bydd eu gwaith yn cael ei ohirio o Fawrth 25 tan Ebrill 20, ond pwysleision nhw fod hyn yn dibynnu ar “amgylchiadau sy’n newid yn gyflym.”

Dyma’r cwmni ceir diweddaraf i stopio cynhyrchiad yn y Deyrnas Unedig, yn dilyn Jaguar, Land Rover, BMW, Toyota, Honda, Nissan a Vauxhall.

Rhybuddiodd Aston Martin yn gynharach fis yma bod y coronafeirws yn effeithio ar y galw yn Tsieina ac ar draws Asia, gan ychwanegu bod hyn bellach yn effeithio ar farchnadoedd eraill.

“Ar hyn o bryd mae oddeutu traean y rhwydwaith delwyr wedi cau a thraean yn gweithredu ar raddfa lai ac mae’n bosib y bydd hyn yn cynyddu.”