Mae’r cwmni ffasiwn Laura Ashley wedi cyhoeddi y bydd 70 o’i siopau yn cau’n barhaol, gyda 721 o weithwyr yn colli eu swyddi.
Daw hyn ar ôl i drafodaethau i achub y cwmni gael eu gohirio wedi dyfodiad y coronafeirws, cyn i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae llu o gwmnïau, gan gynnwys John Lewis ac Ikea, wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu siopau yn sgil y pandemig.
Ond Laura Ashley yw’r cyntaf i gyhoeddi eu bod yn cau’n barhaol.
Dywed y cwmni y bydd yn parhau i fasnachu o’r 77 siop sy’n weddill yn y Deyrnas Unedig, a fydd yn aros yn agored tra bod y cwmni’n dal i weithredu ar-lein hefyd.
Dywed prif swyddog gweithredu’r cwmni, Katherine Poulter ei bod yn “obeithiol” o ddod o hyd i brynwr ar gyfer y brand.
“Ers cael fy mhenodi fis diwethaf, rwyf wedi rhannu fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol y brand hwn, ynghyd â chynllun cadarn ar gyfer dyfodol y cwmni a dychwelyd Laura Ashley o’r brand Prydeinig sydd yn cael ei adnabod a’i edmygu ledled y byd,” meddai.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Laura Ashley yn dal gafael ar ei safle haeddiannol ar y tirlun adwerthu rhyngwladol.”
Gwreiddiau yng Nghymru
Cafodd sylfaenydd y cwmni, Laura Mountney (Laura Ashley yn hwyrach) ei geni ym Merthyr Tudful yn 1925.
Agorodd siop gyntaf Laura Ashley ar 35 Stryd Maengwyn ym Machynlleth yn 1961.
Bu i’r teulu fyw uwch ben y siop ym Machynlleth cyn symud i Carno, Sir Drefaldwyn ac agor ail siop yno.
Datblygodd y cwmni i fod yn un o frandiau ffasiwn amlycaf gwledydd Prydain.
Mae’r cwmni yn rheoli 150 o siopau yng ngwledydd Prydain ac yn cyflogi tua 2,700 o weithwyr ar hyn o bryd.