Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu cannoedd o wlâu ychwanegol pe bai eu hangen dros yr wythnosau nesaf i ymateb i’r coronafeirws.
Wrth baratoi am heriau heb eu tebyg o’r blaen, mae’r cyngor yn gweithio gyda Chyngor Tref Llanelli a’r sector breifat er mwyn cefnogi’r Bwrdd Iechyd i ddelio gyda’r cynnydd mewn gofal fydd ei angen.
Dros y dyddiau nesaf, bydd contractwyr yn cael eu comisiynu i newid safleoedd yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin ac yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli.
Mae Parc y Scarlets hefyd wedi cynnig rhan helaeth o’u safle nhw a’u hadeiladau yn rhad ac am ddim er mwyn i’r awdurdodau lleol eu newid at ddefnydd y Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Hanfodol
“Mae darparu’r gwlâu ychwanegol yma ar gyfer cleifion am fod yn hanfodol i ni allu rheoli’r llif o gleifion dros yr wythnosau sydd i ddod,” meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Hywel Dda.
“Rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth rydym yn ei dderbyn gan ein hawdurdod lleol i helpu i wneud hyn yn bosib.”
“Rydym wedi cadw llygad barcud ar y sefyllfa yn yr Eidal i ddysgu lle bo modd ac i helpu wrth i ni gynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi dweud bod llif y cleifion yn ffactor allweddol wrth ymateb i’r pwysau mae Covid-19 yn ei roi ar y system.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n hanfodol bod y GIG a Llywodraeth Leol yn rhannu eu harbenigedd yn y cyfnod eithriadol hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd y camau brys hyn.
“Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn oresgyn yr heriau hyn. Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Llanelli a Pharc y Scarlets am eu cefnogaeth.”