Fe fydd deddfwriaeth Brydeinig i atal pobol rhag cael eu troi allan o eiddo cymdeithasol neu wedi’i rentu’n breifat yn cael ei hymestyn i Gymru.

Daw’r cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Tai.

Er mwyn osgoi pryderon ymhlith tenantiaid, fydd landlordiaid ddim yn cael dwyn achos i geisio eu troi nhw allan am o leiaf dri mis.

A bydd cyfnod gras o dri mis i dalu morgais yn cael ei ymestyn i landlordiaid sydd â thenantiaid yn wynebu trafferthion ariannol yn sgil y feirws.

‘Gwarchod tenantiaid a landlordiaid’

“Rydyn ni’n gweithredu er mwyn gwarchod tenantiaid a landlordiaid sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws,” meddai Julie James.

“Tra ei bod hi’n iawn fod tenantiaid yng Nghymru’n elwa ar y mesur yma, mae angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael â mater cefndirol, sef fod hysbysiadau meddiannu’n cael eu rhoi yn y lle cyntaf.

“Byddwn ni’n parhau i wneud popeth allwn ni i gefnogi tenantiaid yng Nghymru.

“Mae’n hanfodol nad yw’r un person sy’n rhentu yng Nghymru’n cael eu gorfodi allan o’u cartref yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn.

“Bydd y mesurau hyn yn lleddfu’r pwysau ar landlordiaid i fodloni taliadau morgais ac yn lleihau’r pwysau ymhellach ar denantiaid o ganlyniad.”