Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno mesurau llym er mwyn gorfodi pobol i wrando ar gyngor teithio ac ynysu eu hunain oherwydd y coronafeirws.
Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig nad yw’r cyhoedd yn anwybyddu’r cyngor meddygol os yw Cymru am osgoi rhagor o farwolaethau.
Mae 12 o bobol wedi marw yn sgil y feirws erbyn hyn, gyda 347 yn rhagor wedi profi’n bositif.
Daw rhybudd Mark Drakeford ar ôl i gynghorau sir rybuddio pobol i gadw draw o lefydd gwyliau poblogaidd, wrth iddyn nhw deithio yno yn eu heidiau i ynysu eu hunain.
Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am wahardd pobol sy’n ynysu eu hunain rhag teithio i ardaloedd gwledig at eu hail gartrefi, parciau gwyliau a llefydd poblogaidd eraill.
Ac mae arweinwyr pedwar cyngor sir – Gwynedd, Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin – yn galw am sicrhau nad yw pobol yn teithio i’r ardaloedd hynny er mwyn osgoi rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Cyngor ‘cwbl hanfodol’
“Mae hunanynysu i’r sawl sydd â symptomau ac ymbellháu cymdeithasol gan bawb yn gwbl hanfodol ar hyn o bryd os ydyn ni am ohirio ymlediad y feirws yma ac achub bywydau,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Mae angen i ni i gyd ddilyn y cyngor hwn nawr er mwyn gwarchod ein gilydd a’n teuluoedd ac i helpu i sicrhau nad yw ein Gwasanaeth Iechyd yn cael ei orlwytho.
“Mae ymbellháu cymdeithasol yn cynnwys osgoi teithio o unrhyw fath os nad yw’n hanfodol, ac os nad yw pobol yn dilyn y cyngor hwn, fydd gennym ni ddim dewis ond defnyddio pwerau i’w orfodi.”