Mae triniaeth ganser merch naw oed o Wrecsam yn y fantol yn sgil y coronafeirws.
Cafodd Eva Williams wybod ddeufis yn ôl fod ganddi diwmor ar ei hymennydd a hynny o ganlyniad i DIPG, y canser mwyaf peryglus ymhlith plant.
Ar gyfartaledd, mae plant sydd â’r math hwn o ganser yn byw am wyth i 12 mis.
Mae Eva wedi cael radiotherapi ond does dim rhagor o driniaethau ar gael trwy’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae ei rhieni, Paul Slapa a Carran Williams yn ceisio codi £250,000 er mwyn iddi dderbyn triniaeth breifat yn Efrog Newydd, ac maen nhw eisoes wedi codi £142,000 mewn ychydig dros wythnos.
Ond mae cyfyngiadau teithio oherwydd y coronafeirws yn golygu na fydd modd iddi deithio am gyfnod amhenodol.
Cefndir Eva a’r teulu
Mae Eva a’i theulu’n derbyn cefnogaeth gan sefydliad Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd, yn ogystal â nifer o enwogion fel yr actor a digrifwr Matt Lucas, sydd wedi bod yn eu helpu i godi arian.
Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cael trafferth ymdopi â’r ansicrwydd.
“Fe fu’n rhaid i nifer o bobol sy’n cefnogi ymdrechion codi arian ar gyfer Eva ganslo sawl digwyddiad codi arian oherwydd y coronafeirws, ac mae’r ymlediad wedi dod ar yr amser gwaethaf posib i’n teulu.
“Mae Eva yn ferch fach brydferth, garedig a chariadus sydd â chalon mor fawr.
“Ar Ddydd Calan, cafodd ein bywydau eu gwyrdroi pan gafodd ein merch fach ddiagnosis o DIPG.
“Mae’r tiwmor wedi’i leoli yn… y rhan o’r ymennydd sy’n rheoli anadlu, llyncu a chyfradd y galon, sy’n golygu nad yw llawdriniaeth yn opsiwn ac wrth iddo dyfu, mae yna ganlyniad ofnadwy.
“Mae DIPG yn rhywbeth na ddylai unrhyw riant orfod ei wynebu byth; mae yna ffeithiau nad oedden ni wedi gallu eu rhannu ag Eva.
“Allwn ni ddim credu nad oes gwellhad ac mai ei phrognosis yw 12 mis yn unig.
“Mae Eva yn ferch fach hynod reddfol, ac felly rydyn ni wedi bod mor agored ag yr ydyn ni’n teimlo y gallwn ni fod heb rannu’r prognosis.
“Mae hi’n derbyn hyn am y tro.
“Allwn ni ddim ond gobeithio nad yw’r coronafeirws yn dinistrio un o’r opsiynau olaf sydd ar gael i achub ein merch fach.”